Clwb Golff Y Bala Golf Club © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs
Bala Golf Club
Ymunwch â Chlwb Golff Y Bala Rydym yn hynod falch bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chlwb Golff Y Bala lle rydych yn sicr o gael golygfeydd golff godidog ar y cwrs a chroeso cyfeillgar yn y Clwb. Anogir aelodaeth yn y Bala fel clwb cymunedol a chyfleuster gwerthfawr. Mae gennym nifer o ostyngiadau cyflwyniadol yn gysylltiedig ag oedran ac edrychwn ymlaen at eich croesawu fel aelod newydd neu gyn-aelod sy'n dychwelyd. Fel Clwb rydym yn gweithredu cynnig aelod-yn canfod-aelod sy'n ymgorffori cyfraddau gostyngol ar gyfer aelodau newydd neu aelodau blaenorol ble mae eu haelodaeth wedi mynd heibio ers 2 flynedd neu fwy. Cynigir gostyngiad o £100 i'r aelod newydd am ei aelodaeth lawn blwyddyn gyntaf fel oedolyn a chynigir gostyngiad o £50 i'r aelod presennol (y gellir ei drosglwyddo fel cymhelliant pellach i'r aelod newydd). Manteision ymuno â Chlwb Golff Y Bala • Handicap chwarae swyddogol gan Golff Cymru • Hawliau chwarae llawn ar gyfer pob cystadleuaeth clwb • Mynediad i'r cwrs golff yn rhad ac am ddim trwy gydol y flwyddyn • Cyfleusterau ystafell loceri • Lle parcio • Llogi cyfleusterau Clwb Golff y Bala am ddim Pecynnau Aelodaeth Mae'r flwyddyn aelodaeth yn cychwyn ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Anfonir gohebiaeth atgoffa tua mis cyn diwedd y flwyddyn danysgrifio, gyda thaliad yn daladwy erbyn 31 Ionawr gydag arian parod, cerdyn, siec neu archeb sefydlog. Mae’r Clwb yn gweithredu cynllun Archeb Sefydlog, heb unrhyw gost bellach i aelodau, sy’n caniatáu i chi dalu eich tâl aelodaeth mewn un, dau neu ddeg rhandaliad – cysylltwch ag Ysgrifennydd y Clwb am fanylion pellach. Sylwch, fodd bynnag, os byddwch yn ymuno neu'n gadael hanner ffordd drwy'r flwyddyn aelodaeth, byddwch yn dal i fod yn atebol am swm y tanysgrifiad llawn. Aelodaeth Llawn / Categorïau Cysylltiedig ag oedran • Hawl i chwarae 7 diwrnod yr wythnos • Hawliau pleidleisio llawn • Gallu chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth Clwb, neu dîm y maent yn gymwys ar ei gyfer • Mae cyfraddau disgownt ar sail oedran wedi'u rhestru isod Aelodaeth Golff Cymdeithasol • Hawl i chwarae 7 diwrnod yr wythnos • Hawliau pleidleisio llawn • DIM HAWL i chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth neu dîm Clwb Aelodaeth Gwlad • Hawl i chwarae 7 diwrnod yr wythnos • Ffi blynyddol gostyngedig • Rhaid i'r cyfeiriad parhaol fod 40 milltir neu fwy o'r Bala a/neu fod yn aelod llawn o Glwb Golff arall • Gallu chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth Clwb, neu dîm y maent yn gymwys ar ei gyfer Myfyriwr Llawn Amser • Hawl chwarae 7 diwrnod yr wythnos • Hawliau pleidleisio llawn • Gallu chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth Clwb, neu dîm y maent yn gymwys ar ei gyfer • Bydd angen tystiolaeth gyfredol o’r cwrs Aelodau Ieuenctid • I’r sawl sydd yn 18 oed neu iau ar 1 Ionawr • Hawl chwarae 7 diwrnod yr wythnos (gyda goruchwyliaeth briodol) • Gallu chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth Clwb, neu dîm y maent yn gymwys ar ei gyfer Pecyn cyflwyniadol blwyddyn gyntaf i aelodau newydd Aelodaeth 4 Mis • Aelodaeth unrhyw 4 mis golynol rhwng Ebrill a Medi • Gallu chwarae 7 diwrnod yr wythnos • Hawliau pleidleisio llawn os yn aelod adeg y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol • Yn amodol i hawliau chwarae cyfyngedig yn ôl y Cyngor/Pwyllgor Lawntiau Aelodaeth 15 Mis • Cynnig arbennig i ymuno yn gynnar ym mis Hydref ar gyfer y flwyddyn golff nesaf • Hawl i holl fanteision aelodaeth lawn Rheolau a gweithdrefnau y Clwb • Rheolau’r Clwb • Cod Ymddygiad • Trefn Disgyblu Os hoffech fwy o wybodaeth am ein pecynnau neu os hoffech drafod opsiynau talu hyblyg cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at Alwyn Roberts, Ysgrifennydd y Clwb yn swyddfa@golffbala.co.uk a fydd yn fwy na pharod i helpu. Tanysgrifiadau aelodaeth Gweler ffioedd 2026 yma Os hoffech wneud cais am aelodaeth, anfonwch eich manylion personol trwy lenwi'r ffurflen gais isod a nodwch pa becyn aelodaeth yr ydych yn gymwys / ymgeisio amdano:
CYFEIRIAD Bala Golf Club Penlan, Bala Gwynedd LL23 7YD
CYSYLLTU Ffon: 01678 520359 Ebost: swyddfa@golffbala.co.uk

Clwb Golff Y Bala Golf Club © 2026

Website designed and maintained by H G Web Designs

Bala Golf Club logo

Clwb Golff Y Bala Golf Club

Tel: 01678 520359

Clwb Golff Y Bala Golf Club

Tel: 01678 520359